Addoliad

Hafan / Home I Fyny / Up Bedydd

Oedfaon    Bedydd    Cymun    Priodas    Profedigaeth    Aelodaeth

Cymraeg yw iaith addoliad yr eglwys. 

 
Mae’r syniad o “deulu” yn bwysig i’r eglwys a rhoddir lle amlwg i’r plant a’r bobl ifanc yn yr addoliad a gweithgareddau eraill.    

Oedfaon y Sul a Gweithgareddau’r Eglwys


10.00   Oedfa bore Sul  y plant/ifanc yn arwain yr addoliad cyn mynd i’r Ysgol Sul
10.15    Ysgol Sul   
 5.30    Oedfa Undebol yn  un o’r pedwar capel anghydffurfiol

 
 Oedfa Gymun Sul cynta’r mis yn y bore a’r hwyr am yn ail
 Oedfa Deuluol bore Sul cynta’r mis
 Clwb y Plant ar nos Lun 
 Y Gymdeithas Ddiwylliadol ar nos Iau o fis Tachwedd i Mawrth
 
 Cyd-addoli dan nawdd CYTUN   (www.cytun.freeserve.co.uk)   
 Trydydd Sul Ionawr  -  Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol
 Sul cyntaf Mai   -  Oedfa  Cymorth Cristnogol   (www.christian-aid.org.uk)    
 Sul cyntaf Medi  -  Oedfa Ddinesig
 
 Cyd-addoli eglwysi anghydffurfiol y dref
 Bob nos Sul
 Wythnos Calan   -  Oedfa Weddi
 Gwener cyntaf Mawrth - Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd
 Bore’r Groglith  -   Oedfa Gymun yng nghapel Ebeneser
 Sul cyntaf Tachwedd  -  Oedfa Gymun Undebol
 Trydydd Sul Rhagfyr  -  Oedfa Garolau  Undebol

Bedydd   

Sacrament derbyn i’r eglwys yw Bedydd.  Cyhoedda fod Duw yn caru’r person a fedyddir, fod Crist wedi marw drosto a bod y bedydd ei hun yn arwydd o faddeuant pechodau ac o atgyfodiad i fywyd tragwyddol yn a thrwy Iesu Grist.
Bedyddio babanod yw’r arfer cyffredinol, ond yn achlysurol gweinyddir y sacrament i oedolion ar broffes o’u ffydd a’u cred.
Gwenyddir y sacrament yng ngwydd y gynulleidfa - sy’n addo ysgwyddo’r cyfrifoldeb o fagu a meithrin baban yn y ffydd, ac i roi bob cefnogaeth i rai mwy aeddfed a ddaw i berthyn i’r eglwys trwy fedydd.

 

Bedydd 2.jpg (202289 bytes)

Cymun   

Cynhelir oedfa Gymun - Sacrament cofio marwolaeth Iesu Grist drosom ar groes Calfaria - unwaith y mis yn arferol a hefyd ar fore’r Pasg a bore’r Nadolig. Gan mai Bwrdd yr Arglwydd, y cawn ein gwahodd ato gan Grist ei hun, yw’r Bwrdd, estynnir gwahoddiad ato i bawb sy’n caru enw ac achos yr Arglwydd Iesu Grist. Yn 1991 penderfynodd y gynulleidfa fod y plant a’r ifanc a fedyddiwyd, ond nad ydynt eto wedi eu derbyn y gyflawn aelodau o’r eglwys Gristnogol, yn cael derbyn bara’r Cymun - gyda chydsyniad eu rhieni.
Bydd y gweinidog yn cynnal gwasanaeth Cymun yn ôl y galw ar aelwyd unrhyw un na all fynychu’r oedfaon.

 
Priodas  

Mae’r capel ar gael i eraill yn ogystal ag aelodau i gynnal eu gwasanaeth priodas.  Y mae’r gweinidog a dau o’r swyddogion, wedi eu penodi’n “gofrestryddion” ar gyfer priodasau. Dylai unrhyw un sy’n dymuno priodi yn y capel ymgynghori â’r gweinidog.

 
Profedigaeth 

Mae colli rhywun annwyl gyda’r profiad anoddaf i’w wynebu a phryd hynny y mae mwyaf o angen cwmni a chymorth.  Gall yr Eglwys Gristnogol gynnig hynny ar sail neges Efengyl y Pasg, ac mae’r  gweinidog ar gael bob amser i ymweld ag aelwydydd lle mae profedigaeth i rannu a chynghori yn ogystal â chynnig cymorth ymarferol.

 
Aelodaeth 

Bydd pobl ifanc yn cael eu derbyn yn gyflawn aelodau o’r eglwys wedi cyfnod o hyfforddiant mewn dosbarth derbyn o dan arweiniad y gweinidog. Yn y traddodiad cynulleidfaol derbynnir rhai yn aelodau wrth Fwrdd y Cymun ar broffes gyhoeddus o gred a ffydd trwy estyn  iddynt “ddeheulaw cymdeithas”.  Derbynnir rhai o eglwysi, ac o draddodiadau, eraill drwy ddarllen  “llythyr aelodaeth” a chydnabyddir aelodaeth pob un a fedyddiwyd ac a “dderbyniwyd” yn aelod eglwysig gan unrhyw un o’r traddodiadau Cristnogol.

 

Nôl i'r brig                                                                                             Yn ôl   Ymlaen