Strwythur

Hafan / Home I Fyny / Up Swyddogion Yr Ofalaeth

Eglwys Gynulleidfaol
 
Yn y traddodiad “cynulleidfaol” cwmni o bobl wedi cyfamodi â’i gilydd ger bron Duw yn enw Crist yw eglwys.  O fewn y patrwm cynulleidfaol mae’r eglwys yn cael ei llywodraethu gan y “Cwrdd Eglwys” - cyfarfod o’r aelodau o dan arweiniad yr Ysbryd Glân a’r Ysgrythurau.
 
Yn ymarferol mae’r  gynulleidfa yn datganoli cyfrifoldebau i swyddogion gweinyddol fel Ysgrifennydd a Thrysorydd ynghyd â’r Diaconiaid.  Yn 1994 sefydlwyd nifer o “weithgorau” i gymryd cyfrifoldeb am wahanol agweddau o fywyd a gwaith yr eglwys.  Mewn Cwrdd Eglwys yn Chwefror 2002 adolygwyd y patrwm gan gyfuno rhai a lleihau y nifer i saith.
 
Cytunwyd hefyd i ddewis 4 diacon ychwanegol at y rhai presennol. Gwneir hynny dan batrwm newydd o benodi am dymor o 5 mlynedd, gan ddewis 4 newydd yn eu lle ym mhedwaredd flwyddyn eu tymor.
   
Gweithgorau:  

Addoli a Cherdd
Adeiladau
Bugeilio
Cyfathrebu
Diwylliant
Elusennau
Ieuenctid

 
Mae’r eglwys yn rhoi pwyslais mawr ar gyd-weithio gydag eglwysi o draddodiadau eraill, a bu’n gefnogol iawn i bob gweithgarwch cyd-enwadol yn y dref.  Croesawodd yr awgrym yn 1992 o gynnal oedfa undebol i’r anghydffurfwyr un nos Sul y mis.  Ymhen dwy flynedd arweiniodd hynny at benderfyniad yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Eglwys Fethodistaidd i gyd-addoli ar bob nos Sul. Bellach mae’r Presbyteriaid hefyd yn ymuno’n gyson yn y patrwm hynny.
 

Swyddogion

Nôl i'r brig                                                                                 Yn ôl   Ymlaen