|
|
|
Mae hanes Y Tabernacl yn cychwyn gyda Hugh
Owen (1639-1700) o Fronclydwr, Llanegryn - “Apostol Meirion” - fel ei
gelwid gan yr Annibynwyr. Byddai’n dod i Ddolgellau bob rhyw dri mis at
gwmni bach oedd yn ymgynnull yn “Ty Cyfarfod” - annedd-dy yn ardal Y Domen
Fawr o’r dref. Aeth can mlynedd heibio wedi marwolaeth Hugh Owen cyn i
Hugh Pugh, gwr ifanc o bentref Y Brithdir, ddechrau pregethu mewn
anedd-dy o’r new Pen-y-garnedd ym mhentref Llanelltud yn 1802 ac yna
mewn ty ym Mhen-bryn-glas, Dolgellau yn 1803. Yn 1804 sefydlwyd eglwys
gynulleidfaol yn y dref ac yn 1808 prynwyd hen addoldy y Methodistiaid
Calfinaidd - oedd gyferbyn a Ty Cyfarfod. Yno y bu cartef yr eglwys tan
1868 pan agorwyd addoldy newydd Y Tabernacl yn nes i ganol y dref.
Gweinidogion yr eglwys o’r cychwyn:
Eglwys Gymraeg a Chymreig ei naws fu Y Tabernacl erioed, yn gweld cadw a
defnyddio yr iaith Gymraeg fel rhan ganolog o’i chyfrifoldeb a’i
chenhadaeth yn y gymuned.
Bu hefyd yn eglwys â chonsyrn “cymdeithasol” ar hyd ei hanes ac yn barod ei chefnogaeth i elusennau a mudiadau dyngarol yn y cylch a thu hwnt. Mae aelodau’r eglwys yn amlwg ym mywyd y gymuned fel Cynghorwyr tref a sir, ac yn weithgar gyda mudiadau ac achosion gwahanol.
Nifer Aelodau 210
Plant/ Ieuenctid 53
|