|
|
|
Addoli/Cerdd Adeiladau
Bugeiliol Cyfathrebu
Diwylliant Elusennau Ysgol Sul
Sefydlwyd deg “Gweithgor” gan y Cwrdd Eglwys yn 1991. Adolygwyd
eu swyddogaeth a chyfunwyd rhai ohonynt yn 2002 gan leihau y nifer i 7.
Eu swyddogaeth yw rhoi arweiniad ar wahanol agweddau ar fywyd yr eglwys.
Mae i bob Gweithgor ei Gadeirydd a’i Ysgrifennydd i arwain ei weithgarwch. Bydd yn adolygu patrwm addoliad yr eglwys ac yn rhannu yn y gwaith o baratoi oedfaon yn achlysurol, gan ddarparu deunydd ar gyfer yr oedfaon yn ol y gofyn a threfnu rhai i arwain a chyfrannu yn yr oedfaon. Mae hefyd yn gyfrifol am drefnu rota cyfeilyddion ac arweinyddion y gân.
Adeiladau
Y grwp sy’n gofalu am eiddo yr eglwys gan ofalu ei fod yn cael ei gadw
mewn cyflwr da a diogel.
Bugeiliol
Yn gefn i weinidogaeth “fugeiliol” y gweinidog. Bydd yn trefnu rota “ymweld” â’r hen a’r cleifion (a gychwynnwyd yn 1879). Gofalu am gardiau cyfarch i aelodau ar wahanol achlysuron. Cefnogi y rhai sydd a chyfrifoldeb trefnu llety pregethwyr y Sul y rota blodau a’r rhai sy'n gofal am y llestri cymun. Trefnu ar gyfer achlysuron arbennig.
Cyfathrebu
Gofalu am safle’r eglwys ar y We a diweddaru’r wybodaeth yn ôl y galw.
Paratoi tudalen fisol yn nodi trefn y gwasanaethau ac unrhyw ddigwyddiadau
arbennig. Gofalu am gyhoeddusrwydd i weithgareddau amrywiol yr eglwys.
Darparu gwasanaeth tapiau caset i aelodau sy’n gaeth i’w cartrefi.
Diwylliant
Gweithgor sy’n cyfuno dau weithgarwch: Y Gymdeithas Ddiwylliadol, sy’n cyfarfod yn ystod tymor y gaeaf, gyda
rhaglen amrywiol o sgyrsiau, darlithiau, hanes teithiau, cwisiau ayyb. Cyfle i
drin a thrafod, ac yn gymaint a dim i gwmnia a chymdeithasu.
Y Grwp Adloniant, gyda’r cyfrifoldeb o drefnu gwahanol weithgareddau yn
ystod y flwyddyn: teithiau cerdded; Bowlio Deg; barbeciw; pererindod.
Elusennau Cynnal a chryfhau gwaith dyngarol yr eglwys yn y gymuned a thu
hwnt. Codi ymwybyddaieth o sefyllfaoedd o anhegwch ac anghyfiawnder, ac
ysgogi ymateb. Hybu gwaith a chefnogi ymgyrchoedd Cymorth
Cristnogol a mudiadau fel Jiwbili 2000 ac Ymgyrch Masnach Deg. |