Defosiwn

Hafan / Home I Fyny / Up

Mis Hydref - y mis sydd hefyd yn dymor. Yn draddodiadol byddai gogledd Cymru yn cynnal ei Gwyl Ddiolchgarwch ar y trydydd dydd Llun o'r mis - ac ar un cyfnod byddai gweithwyr y sector gyhoeddus yn cael diwrnod o wyliau y diwrnod hwnnw, a llawer o siopau yn cau.  Bellach mae natur yr Wyl wedi newid, ond bydd y rhan fwyaf o gylchoedd yn siwr o gynnal Gwasanaeth Diolchgarwch yn ystod y mis. Ac o ystyried fel y mae arnom ni i gymharu a llawer eraill - hyd yn oed yn ein cymdeithas ein hunain - mae yna le gyda ni i gyd i ddiolch.

                                    Salm 117                                                                                         Molwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd; clodforwch ef, yr holl bobloedd. Oherwydd mae ei gariad yn gryf tuag atom, ac y mae ffyddlondeb yr Arglwydd dros byth. Molwch yr Arglwydd

                       Detholiad o Salm 136                                               

Diolchwn i'r Arglwydd am mai da yw; oherwydd mae ei gariad hyd byth. Diolchwn i Dduw y duwiau, oherwydd mae ei gariad hyd byth. Diolchwn i Arglwydd yr Arglwyddi, oherwydd mae ei gariad hyd byth.     Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan, gwnaeth y nefoedd mewn doethineb, taenodd y ddaear dros y dyfroedd, gwnaeth oleuadau mawrion, yr haul i reli'r dydd, y lleuad a'r ser i reoli'r nos. Efe sy'n rhoi bwyd i bawb, oherwydd mae ei gariad hyd byth. Diolchwch i Dduw y nefoedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Litani o Ddiolch

Y nefoedd bendithiwch yr Arglwydd,                                                                                      molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd  

yr haul a'r lloer, bendithiwch yr Arglwydd,                                                                               molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

Pob cawod a gwlith, bendithiwch yr Arglwydd,                                                                       molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

Oerni a gwres, bendithiwch yr Arglwydd,                                                                                 molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

Nos a dydd, bendithiwch yr Arglwydd,                                                                                   molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

Mynyddoedd a bryniau, bendithiwch yr Arglwydd,                                                                  molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

Pob peth sy'n tyfu ar y ddaear, bendithiwch yr Arglwydd,                                                           molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

Blant dynion, bendithiwch yr Arglwydd,                                                                                molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd

 

Myfyrdod:

O'n hymdeimlad o ddyled y tardd ein diolchgarwch. Os nad oes yna ymdeimlad o ddyled i neb nad dim, pa angen diolch sydd? Y person mwyaf diolchgar yw'r un sy'n sylweddoli nad yw yn hunanddigonol na chwaith yn hunangynhaliol, ond sy'n ymwybodol mai dyledwr yw i lu o bobl eraill am y bendithion symlaf a ddaw i'w rhan. Byddwn i gyd yn euog o gymryd pethau'n ganiataol; fod dwr yn llifo o agor y tap, a thrydan i oleuo ond taro'r swits, a dewis o fwydydd mewn siop ac archfarchnad yn ol y galw. Ond y tu cefn i bob un o'r adnoddau cyffredin, ond anhepgorol hynny, mae yna lu o bobl a gweithgarwch a dyfeisgarwch. Mi ddylai rhoi hanner munud i feddwl am y drefn o gael dwr a thrydan i'r ty wrth i'r tecell lenwi a berwi yn ddigon i beri syndod ac ysgogi gwerthfawrogiad!. Nid yn unig o'r strwythurau peirianyddol - sydd tu hwnt i ddeall y rhan fwyaf ohonom - ond o'r bobl sy'n eu deall ac yn gallu eu harnesi at ein gwasanaeth ni i gyd. Ac mae hyn cyn dechrau meddwl am y te neu goffi a'r siwgwr!. Ie dyledwyr ydym - ac mewn dyled i lu o bobl sydd nid yn unig yn gofalu fod yna gyfleustodau at ein gwasanaeth, ond fod yna wasanaethau y gallwn fanteisio arnynt pan fod galw mewn meddygfa ac ysbyty. Y cyfan yn gyfarwydd a chyffredin, a'r cyfan yn bethau y byddwn yn aml yn cymryd yn ganiataol. Ond y cyfan wedi, ac yn, costio'n ddrud i rhywrai eu sicrhau i ni, a'r cyfan yn reswm da i ninnau yn ein tro wneud peth mor syml, ond mor eithriadol o bwysig,  a diolch.

 

Gweddi Arglwydd y cread, molwn di am dy waith, am brydferthwch dy fyd, am gyfoeth y ddaear a'i hadnoddau, am ryfeddod bywyd yn ei holl ffurfiau amrywiol, ac am dy ofal drosom ni dy blant. Agor ein llygaid i werthfawrogi harddwch a daioni dy greadigaeth, ac i ymwybod a'th bresenoldeb di yn llenwi, yn prydferthu, ac yn sancteiddio bywyd. (Elfed ap Nefydd Roberts yn Cristion)

Hollalluog Dduw, Dad trugarog, ffynhonnell pob sancteiddrwydd a gras, diolchwn i ti am dy ddaioni a'th gariad diderfyn tuag atom ni a'r greadigaeth gyfan. Diolchwn i ti am ein creu a'n cynnal a'n hamgylchynu a'th fendithion; ond o'th holl roddion, diolchwn fwyaf am i ti yn dy gariad, sydd tu hwnt i'n gallu i'w fynegi, roi dy Fab ein Harglwydd Iesu Grist i adfer ac iachau dynolryw. (o'r Diolch Cyffredinol - Llyfr Gweddi Gyffredin)                                                                                                                                   

 

  


 

Nôl i'r brig                                                                                     Yn ôl   Ymlaen